Croeso

Ymwybyddiaeth Alffa 1 y DU

...i'r wefan i holl ddioddefwyr Diffyg Alffa 1 Anti-trypsin.  Gobeithiwn y bydd y wefan o fudd i chwi.  Yma fe gewch wybodaeth am y cyflwr, cysylltiadau sydd yn  cynnig mwy o wybodaeth, gweithgareddau codi arian a chymdeithasol a sut i ymaelodi yn y grwp.

COFIWCH mae'r wefan yn cael ei redeg gan alffas a'u gofalwyr.  Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn fanwl gywir ac wedi'i diweddaru yn gyson.  OND mae'n hanfodol bwysig eich bod yn ymgynhori â'ch meddyg teulu neu rhywun yn y proffesiwn meddygol.

Diwrnodau Gwybodaeth

Cynhelir y rhain yn achlysurol, i roi cyfle i Alffas a'u gofalwyr glywed  cyflwyniadau byrion gan arbenigwyr sy'n gweithio ym maes ymchwil a thrîn y cyflwr Diffyg Alffa1 Antitrypsin.  Gall y cyflwyniadau cwmpasu'r ymchwil diweddaraf i'r cyflwr a'r driniaeth sydd ar gael, effeithiau'r cyflwr ar eich teulu, yn fyr unrhywbeth sydd yn berthnasol i Alffa 1.

Mae hefyd yn gyfle i gyfarfod ag Alffas eraill yn eich ardal.

Cits Profi Alffa 1

Ewch at y dudalen Testing for Alpha1 am fwy o fanylion.

Fforwm Newyddion a Thrafodaeth

Mae'r Fforwmnawr ar waith.  Mae ar gael i aelodau o'r elusen.  I ymaelodi, ewch at dudalen Membership .

Contact: Meryl

---------------------------------------------------------------------------

Mae gan yr elusen gysylltiadau cryf gyda nifer o gyrff yn cynnwys grwpiau Alffa yn Ewrop, cwmnïau pharmacolegol a chlinigwyr yn y maes.

Cefnogwch Alffas 

Sut i helpu

Justgiving Logo    EasyFundraisingLogo

Elusen gofrestredig Rhif: 1125467

 

Verse of the day